Ocean waves breaking on beach

Croeso i #ArFrigYDon, prosiect addysg newydd sydd wedi’i ddylunio i hysbysu pobl am ein planed las ryfeddol a’i hysbrydoli i gymryd camau gweithredu.

Amdan #ArFrigYDon

Mae cynnwys ein hadnoddau wedi’i wreiddio yng Nghymru, gyda’r nod o ddatblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth a dealltwriaeth o faterion cefnforol lleol. Mae’r adnoddau yn edrych ar faterion byd-eang hefyd, gan gryfhau datblygiad disgyblion fel dinasyddion cyfoes Cymru a’r byd.

Bydd pob cynllun gwers yn cynnwys dolenni cwricwlwm manwl a bydd yr adnodd ei hun yn cyflwyno’r cyfle i ysgolion ddefnyddio dull thematig integredig dros y Meysydd Dysgu a Phrofiad, gan gefnogi disgyblion i wneud cysylltiadau eglur ar draws y cwricwlwm.

Cyflwyniad i’r cefnfor

Yn y cyflwyniad hwn, bydd disgyblion yn dysgu i adnabod pryderon amgylcheddol a datblygu atebion rhagweithiol i faterion amgylcheddol wrth archwilio pa mor bwysig yw’r cefnfor i fywyd.

Bioamrywiaeth

Mae bioamrywiaeth y rhywogaethau yn ein moroedd yn anhygoel, o facteria microsgopig, algâu i forfilod anferth. 

Dysgwch y prif dermau, adnabod cynefinoedd morol a deall sut mae rhywogaethau wedi’u cysylltu â’i gilydd.

seaweed.jpg

Gwasanaethau ecosystem

Mae bioamrywiaeth y rhywogaethau yn ein moroedd yn anhygoel, o facteria microsgopig, algâu i forfilod anferth. 

Dysgwch y prif dermau, adnabod cynefinoedd morol a deall sut mae rhywogaethau wedi’u cysylltu â’i gilydd.

Snakelocks Anemone on Seagrass Georgie Bull

Credit: Georgie Bull

Bygythiadau i’r cefnfor

Rydym yn tynnu gormod o’r môr, ac yn rhoi gormod o bethau i mewn i’r môr.

Mae’r wers yn rhoi trosolwg i ddisgyblion o’r prif fygythiadau i’n cefnfor, ac yn amlygu ffyrdd rydym yn gallu helpu i adfer iechyd ein cefnfor.

Diver's torch, Dan Bolt (Usage Restricted - Contact Billy Barraclough with any questions)

Credit: Dan Bolt

Materion yn ymwneud â’r Cefnfor

Yn yr adran hon, bydd disgyblion yn archwilio materion yn ymwneud â’r cefnfor, gan ganolbwyntio ar lygredd morol, newid hinsawdd a physgota cynaliadwy.

Mae’r gwersi hyn yn archwilio’r bygythiadau sy’n dod yn sgil llygredd morol. Mae’n gwahodd disgyblion i archwilio sut mae llygredd yn cyrraedd ein dyfroedd a pha gamau gweithredu y gall pobl eu gwneud i atal llygredd dŵr.

Mae’r gwersi hefyd yn arwain disgyblion i ddarganfod pam fod cefnfor iach mor bwysig wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd a chefnogi bywyd morol.

Bydd disgyblion yn datblygu eu dealltwriaeth o bwysigrwydd ymddwyn yn gynaliadwy a sut y  gallan nhw wneud newidiadau cadarnhaol fel unigolion, ysgol neu gymuned.

Llygredd morol

Mae’r gwersi hyn yn archwilio’r bygythiadau sy’n dod yn sgil llygredd morol. Mae’n gwahodd disgyblion i archwilio sut mae llygredd yn cyrraedd ein dyfroedd a pha gamau gweithredu y gall pobl eu gwneud i atal llygredd dŵr.

Ffynonellau i’r môr

Sut mae sbwriel yn cyrraedd ein cefnforoedd? Beth yw’r prif ffynonellau? 

Archwiliwch y gweithgareddau ar y tir a’r cefnfor sy’n achosi problemau a chreu atebion i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

street litter

Credit: Jon Tyson

Llygredd morol

Beth yw llygredd morol? O beth mae’n cael ei wneud a pha mor hir ydy e’n para? 

Archwiliwch sbwriel yn eich cymuned a datblygwch rhai negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o’r broblem.

Drinks litter in Scotland

Credit: Catherine Gemmell

Llygredd plastig

Mae mwy na 8 miliwn tunnell o blastig yn cyrraedd y cefnforoedd bob blwyddyn. 

Meddyliwch am ddefnydd pob dydd o blastig a sut mae’n gallu dod yn broblem i’n cefnforoedd, yn enwedig yr effaith ar ein bywyd gwyllt morol.

Fish and plastic pollution in the sea Rich Carey

Credit: Rich Carey via Shutterstock

Microffibrau

Mae microffibrau yn edau blastig sy’n llai na 5mm o hyd. 

Ymchwiliwch i ffynhonnell y microffibrau hyn a’u heffaith ar yr amgylchedd.

Microfibres under a microscope Imogen Napper

Credit: Imogen Napper / Plymouth University

Stopio’r Bloc!

Mae’r hyn sy’n cael ei fflysio i lawr y toiled neu ei olchi i lawr y draen yn gallu cael effaith ddifrifol negyddol ar ein hafonydd a’n moroedd.  

Darganfyddwch sut mae hyn yn digwydd a meddyliwch am gamau gweithredu i Stopio’r Bloc!

Wet wipes on Scottish beach, Catherine Gemmell

Credit: Catherine Gemmell

Llygredd anweladwy

Mae ffasiwn yn cael effaith ar y blaned.

Ymchwiliwch sut mae llygredd cemegol wedi cael ei achosi yn y gorffennol a’r presennol a’r effaith mae’n ei gael ar yr amgylchedd ac iechyd. 

Darganfyddwch ba gamau gweithredu gallwch chi eu cymryd i wneud gwahaniaeth.

Clothes in a washing machine Werayuth Tes

Credit: Werayuth Tes via Shutterstock

Newid hinsawdd

Yn y wers hon, rydym yn gofyn sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar y cefnfor? 

Sut mae’r cefnfor yn helpu i leihau newid hinsawdd? Beth allwn ni ei wneud i leihau newid hinsawdd a gwarchod y cefnfor?

chris-leboutillier-TUJud0AWAPI-unsplash.jpg

Credit: Image by Chris LeBoutillier from Unsplash

Pysgod cynaliadwy

Mae ein cefnfor yn darparu bywoliaethau a bwyd i filiynau o bobl. 

Er mwyn sicrhau y bydd hyn yn gallu parhau yn y dyfodol, mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein harferion pysgota yn gynaliadwy ac yn annistrywiol.

Fish farm from the air Pasta Design

Credit: Pasta Design via Shutterstock

Cymryd camau gweithredu yn eich ysgol

Ar ôl darganfod ein syniadau #ArFrigYDon ym mhob cynllun gwers, mae’r adran hon yn cyflwyno canllawiau a syniadau defnyddio i helpu disgyblion i godi mwy o ymwybyddiaeth yn eu hysgolion, eu cymunedau a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Cymryd camau gweithredu yn eich ysgol

Mae ysgolion yn gallu chwarae rhan fawr o’r newid #ArFrigYDon sydd ei angen i warchod ein cefnforoedd. 

Meddyliwch am gynnal Diwrnod Gweithredu ac archwiliwch i mewn i grwpiau amgylcheddol cenedlaethol a mentrau sy’n gallu eich helpu.

Gwybodaeth gefndirol

Wave of Hope , Hillhead Primary Glasgow - Kirsty Andrews

Credit: Kirsty Crawford

Ymgyrchu a newid ymddygiad

Dewch o hyd i syniadau i’ch helpu i greu ymgyrch #ArFrigYDon Dewch o hyd i syniadau fel pwy i gynnwys a sut i gyfathrebu eich negeseuon. 

Darllenwch am ymgyrchoedd llwyddiannus er mwyn cael ysbrydoliaeth.

Gwybodaeth gefndirol

Better world protest, Unsplash, Markus Spiske

Credit: Markus Spiske, Unsplash

Trefnu digwyddiad glanhau

Cofiwch – mae pob darn o sbwriel sy’n cael ei gasglu yn golygu bod llai o sbwriel yn cyrraedd y cefnforoedd. 

Archwiliwch sut i drefnu digwyddiad glanhau llwyddiannus a darganfyddwch am sefydliadau sy’n gallu eich helpu.

Gwybodaeth gefndirol

Citizen Science

Credit: Billy Barraclough

Economi gylchol

Datblygwch ddealltwriaeth o ystyr economi gylchol a’r dewisiadau sydd gennym i ymestyn bywyd y pethau rydym yn eu defnyddio.

Allwn ni ddewis dewisiadau amgen mwy cynaliadwy?

anna-oliinyk-nCPpMv69m1s-unsplash.jpg

Credit: Image by Anna Oliinyk from Unsplash

Co-funded by the European Union.

Life logo